Cefnogaeth a ariennir

Sut mae’n gweithio

Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn darparu hyfforddiant ar gyfer y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau priodol. Mae arian ar gael ar gyfer cwblhau hyfforddiant technegol a datblygu staff – yn achrededig ac anachrededig.

Mae faint o arian sydd ar gael ar gyfer cwblhau cyrsiau hyfforddiant yn dibynnu ar faint y busnes.

  • Micro Fusnesau
    hyd at 80% (1 – 10 o weithwyr)
  • Cyflogwyr bach a chanolig
    hyd at 70% (11 – 249 o weithwyr)
  • Sefydliadau mawr
    hyd at 50% (> 250 o weithwyr)

Rydym hyd yn oed yn gallu cefnogi hyfforddiant pwrpasol ar gyfer busnesau.

A yw fy musnes i yn gymwys?

 Dyma restr wirio syml i weld a ydych yn gymwys. Ydych chi’n…

  • safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru;
  • fusnes nad yw wedi derbyn mwy na £325,000 o Symiau Bach o Gymorth Ariannol (SAFA) ers y 1af o Ionawr 2021, fel y’i diffinnir gan Erthygl 364 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU-UE
  • fusnes all ddangos budd amlwg ar fuddsoddiad mewn mwy o hyfforddiant

Yna gallwn eich cefnogi.

Os nad ydych yn siwr am unrhyw reswm cysylltwch â ni i wirio’n iawn.

Chwe cham hawdd i gael cefnogaeth ariannol

Mae cael mynediad at ein cefnogaeth ariannol yn broses hawdd ond gweler isod y camau sydd i’w dilyn.

Cwblhewch y Teclyn Sgiliau Diagnostig gydag aelod o dim Sgiliau Bwyd Cymru.

Llenwch ffurflen gais am arian a’i dychwelyd at eich cyswllt yn Sgiliau Bwyd Cymru.

Wedi cymeradwyo’r ffurflen gais, bydd Lantra yn dewis y darparydd hyfforddiant mwyaf priodol i gyflwyno’r hyfforddiant o’n Fframwaith o ddarparwyr hyfforddiant. Os yw’ch gofynion yn benodol iawn, byddwn yn gweithio gyda chi i gomisiynu cefnogaeth ehangach trwy GwerthwchiGymru.

Bydd Lantra yn anfon llythyr yn cadarnhau’r cyllid i’r busnes a’r darparydd hyfforddiant byddwn wedi ei ddewis ar yr un pryd.

Cyfrifoldeb y darparydd hyfforddiant a’r busnes yw i gysylltu a’i gilydd er mwyn trefnu’r hyfforddiant.

Cyn i’r cwrs hyfforddiant gychwyn, rhaid i’r busnes dalu i’r darparydd hyfforddiant y cyfraniad a gytunwyd yn y llythyr cadarnhau cyllid ac ar ddiwedd yr hyfforddiant bydd y darparydd hyfforddiant yn hawlio gweddill costau’r cwrs oddi wrth Lantra.

Dechrau...

Er mwyn rhoi cychwyn arni neu drafod eich anghenion cysylltwch â’r tîm yma.