Cefnogaeth a ariennir
Sut mae’n gweithio
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn darparu hyfforddiant ar gyfer y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau priodol. Mae arian ar gael ar gyfer cwblhau hyfforddiant technegol a datblygu staff – yn achrededig ac anachrededig.
Mae faint o arian sydd ar gael ar gyfer cwblhau cyrsiau hyfforddiant yn dibynnu ar faint y busnes.
- Micro Fusnesau
hyd at 80% (1 – 10 o weithwyr) - Cyflogwyr bach a chanolig
hyd at 70% (11 – 249 o weithwyr) - Sefydliadau mawr
hyd at 50% (> 250 o weithwyr)
Rydym hyd yn oed yn gallu cefnogi hyfforddiant pwrpasol ar gyfer busnesau.
A yw fy musnes i yn gymwys?
Dyma restr wirio syml i weld a ydych yn gymwys. Ydych chi’n…
- safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru;
- fusnes nad yw wedi derbyn mwy na €200,000 o arian a effeithiwyd gan De Minimis yn y 3 blynedd diwethaf;
- fusnes all ddangos budd amlwg ar fuddsoddiad mewn mwy o hyfforddiant
Yna gallwn eich cefnogi.
Os nad ydych yn siwr am unrhyw reswm cysylltwch â ni i wirio’n iawn.
Sicrhau arian a chymorth mewn tri cham hawdd
Er mwyn cael cymorth bydd angen i chi ddilyn tri cham yn unig:

Teclyn Sgiliau Diagnostig
Bydd aelod o dîm Sgiliau Bwyd Cymru yn cwblhau Teclyn Sgiliau Diagnostig gyda chi wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae’r broses hon yn cynnwys cwestiynau syml ac ni ddylai gymryd mwy na 45 munud.
Unwaith y caiff y Teclyn Sgiliau Diagnostig ei gwblhau, anfonir cynllun hyfforddi unigryw atoch ynghyd â ffurflen gais am gyllid. Unwaith y bydd ffurflen gais wedi’i chwblhau ar gyfer cwrs hyfforddi a’i dychwelyd i Lantra, byddwch yn symud i’r cam nesaf.

Neilltuo darparydd hyfforddiant
Caiff yr holl geisiadau am arian a dderbynnir eu sgorio’n unigol i sicrhau bod yna fudd i’r busnes.
Wedi cymeradwyo’r ffurflen gais, bydd Lantra yn dewis y darparwr hyfforddiant mwyaf priodol i gyflwyno’r hyfforddiant o’n Fframwaith o ddarparwyr hyfforddiant. Os yw’ch gofynion yn benodol iawn, byddwn yn gweithio gyda chi i gomisiynu cefnogaeth ehangach trwy GwerthwchiGymru.

Cwblhau’r Hyfforddiant
Cyn i’r cwrs hyfforddiant gychwyn, mae’n rhaid i’r busnes dalu i’r darparydd hyfforddiant y cyfraniad a gytunwyd yn y llythyr cadarnhau cyllid ac ar ddiwedd yr hyfforddiant bydd y Darparydd Hyfforddiant yn hawlio gweddill costau’r cwrs oddi wrth Lantra.
Er mwyn rhoi cychwyn arni neu drafod eich anghenion, cysylltwch â ni.
Dechrau...
Er mwyn rhoi cychwyn arni neu drafod eich anghenion cysylltwch â’r tîm yma.