Cymru. Cyrchfan Bwyd

Cymru. Cyrchfan Bwyd

Mae ‘Cymru. Cyrchfan Bwyd’ yn brosiect o fewn Sgiliau Bwyd Cymru sy’n arbenigo ar gefnogi busnesau manwerthu a lletygarwch i gael gafael ar, i weini ac i werthu bwyd a diod o Gymru. Mae’r prosiect yn cynnig:

  • Ymgynghoriadau/cyngor proffesiynol wyneb yn wyneb rhad ac am ddim yn eich eiddo chi neu mewn cymorthfeydd lleol
  • Cyngor ar ble a sut i brynu bwyd a diod lleol
  • Gweithdai ar gynllunio bwydlenni a sut i fod gam ar y blaen gyda’r tueddiadau diweddaraf
  • Gweithdai ar sut i adrodd a gwerthu stori bwyd lleol
  • Gweithdy ‘Y Gymraeg ar y fwydlen’ – sut all y defnydd o’r Gymraeg ddenu mwy o gwsmeriaid
  • Arddangosiad o ryseitiau Cymreig traddodiadaol a chyfoes
  • Gweithdai ar syniadau brecwast gydag arddangosiadau
  • Gweithdai pwrpasol wedi’u llunio yn unol â gofynion eich cwmni

Felly, os ydych yn prynu, gweini neu werthu bwyd a diod o Gymru trwy gaffis, bwytai, siopau, marchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd, G a B, hunanarlwyo, atyniadau ymwelwyr, canolfannau crefft, llyfrgelloedd, ar-lein ac ati ac os ydych yn credu y gallwn eich helpu i werthu stori bwyd a diod o Gymru yn well yna cysylltwch ag arweinydd y prosiect Laura Alexander trwy ein tudalen cysylltu â ni.