Cymru. Cyrchfan Bwyd

Bwyd Tymhorol Cymreig – Ffres! Gŵyl Lysiau Cymru

8 Mehefin

Lleoliad: Gweminar Zoom
Amser: 11am

Bwyd Tymhorol Cymreig – Ffres! Gŵyl Lysiau Cymru

Ymunwch â ni am arddangosfa fyw, llawn hwyl gyda Nerys Howell, awdur a chogydd teledu. Bydd Nerys yn dangos sut i baratoi a choginio ryseitiau blasus o’i llyfr newydd, dwyieithog Bwyd Cymru yn ei Dymor. Wrth ddefnyddio llysiau maethlon fel betys i greu ryseitiau ysbrydoledig newydd fel pice betys a siocled bydd Nerys yn eich ysbrydoli i arbrofi gyda’r ryseitiau gwych yma adre. Caiff y digwyddiad ei gynnal dros Zoom a bydd cyfle i drafod gwahanol lysiau a sut mae neud y gorau o gynnyrch yn eu tymor.

Mae’r arddangosfa wedi ei threfnu gan Cymru Cyrchfan Bwyd, rhan o brosiect Sgiliau Bwyd Cymru sydd wedi’i ariannu gan Rhaglen Datblygu Gwledig. Rydym yn cefnogi ac yn annog busnesau lletygarwch i brynu, gweini a gwerthu mwy o fwyd a diod Cymreig trwy gynnig sesiynau mentora a gweithdai sydd wedi’u ariannu drwy’r prosiect.

Cofrestrwch yma

 

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn cysylltwch dros e-bost

 
Share This