Gweithdai a Dosbarthiadau Meistr ar gyfer busnesau lletyfarwch ym mis Medi 2022
Lleoliad: Gweminarau Zoom ar-lein
Amser: Dibynnol ar y cwrs
Mae’r cyrsiau rhithiol hyn wedi hariannu’n llawn ar gyfer unrhyw fusnes sy’n cyrchu, gweini a gwerthu bwyd Cymreig.
1. Cymraeg ar y Fwydlen
Dyddiad: 6 Medi Amser: 11am
Dysgwch am hanes yr iaith a sut y gall fod yn arf marchanta ddefnyddiol ar gyfer eich busnes. Byddwn hefyd yn edrych ar ychydig o hanes prydau traddodiadol Cymreig. Sesiwn ryngweithiol yn nodi rhai geiriau Cymraeg allweddol defnyddiol ar gyfer eich busnes.
Archebwch eich lle yma
2. Steilio Bwyd a Ffotograffiaeth
Dyddiad: 12 Medi Amser: 11am
Bydd y gweithdy hwn, sy’n cael ei redeg gan y ffotograffydd proffesiynol Phil Boorman a’r steilydd bwyd Nerys Howell, yn dangos sut i steilio a thynnu lluniau gwell o ddelweddau o seigiau unigryw i’w rhannu ar eich gwefan.
Archebwch eich lle yma
3. Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol (Caerdydd a’r Fro)
Dyddiad: 15 Medi Amser: 10:30am
Dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn rhan bwysig o strategaeth farchnata eich busnes. Mae’r dosbarth meistr hwn yn helpu’r rhai sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu bwyd a diod i wella eu sgiliau cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi eu proffil a chynyddu gwerthiant.
Archebwch eich lle yma
4. Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol
Dyddiad: 15 Medi Amser: 10:30am
Dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn rhan bwysig o strategaeth farchnata eich busnes. Mae’r dosbarth meistr hwn yn helpu’r rhai sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu bwyd a diod i wella eu sgiliau cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi eu proffil a chynyddu gwerthiant.
Archebwch eich lle yma
5. Ysbrydoliaeth brecwast Cymreig
Dyddiad: 13 Medi Amser: 2pm
Os yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich bwydlen frecwast, ymunwch â ni am arddangosfa ymarferol o ryseitiau newydd cyffrous gyda bwydydd a diodydd lleol.
Archebwch eich lle yma
6. Creu profiad bwyta lleol
Dyddiad: 15 Medi Amser: 2pm
Gyda diddordeb cynyddol mewn bwydydd a diodydd lleol, bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut i ddod o hyd i’r cynhyrchion hyn a sut y gallant wella’ch pwynt gwerthu unigryw.
Archebwch eich lle yma
7. Adnewyddu’r fwydlen
Dyddiad: 20 Medi Amser: 10am
Bydd y sesiwn hon yn awgrymu’r ffordd orau o gynllunio bwydlen ddeniadol a chytbwys. Byddwn yn eich helpu i ddarparu ar gyfer pob diet ac yn dangos sut i gynnwys bwyd a diod lleol.
Archebwch eich lle yma
8. Diodydd a The Prynhawn Nadolig
Dyddiad: 28 Medi Amser: 11am
Awyddus i baratoi bwydlen diodydd a the prynhawn arbennig ar gyfer y Nadolig? Gall ein tîm o gorachod helpu!
Archebwch eich lle yma