Cymru. Cyrchfan Bwyd

Gweithdai a Dosbarthiadau Meistr Medi 2021

Lleoliad: Gwminarau Zoom ar-lein
Amser: Dibynnol ar y cwrs

Manteisiwch ar ein cyfres ddiweddaraf o ddosbarthiadau meistr ar-lein i sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer tymor yr hydref a dysgu sut i ddefnyddio cynnyrch lleol i hyrwyddo eich nodau busnes.

 

1. Angen ysbrydoliaeth ar eich Bwydlen Frecwast

Dyddiad: 28 Medi  Amser: 11am
Os yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer beth i’w weini yn y bore, ymunwch â ni am arddangosiad ymarferol o ryseitiau newydd cyffrous gan ddefnyddio bwyd a diod lleol.

Cofrestrwch yma

 

2. Adnewyddu eich bwydlen

Dyddiad: 30 Medi  Amser: 11am
Wedi’i arwain gan y ffotograffydd proffesiynol Phil Boorman a’r steilydd bwyd Nerys Howell, bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut i steilio a thynnu delweddau gwell o’ch prydau arbennig i chi eu rhannu ar eich gwefan.

Cofrestrwch yma

 

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn cysylltwch dros e-bost

Share This