Bwyd i Fynd
I bwy mae’r pecyn hwn?
Mae’r pecyn cymorth hwn yn ganllaw cychwynnol ar gyfer gwerthwyr bwyd cyflym a bwyd stryd, yn ogystal â manwerthwyr sy’n cynnig bwyd i fynd, trefnwyr digwyddiadau a siopau fferm.
Yn fwyfwy erbyn hyn mae defnyddwyr yn bwyta bwyd a diod i fynd ac mae’r farchnad hon yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn niwydiant bwyd gwledydd Prydain. Er mwyn ichi gael mwy o sylw na’ch cystadleuwyr mae’r pecyn cymorth hwn yn eich annog i ganolbwyntio ar fwyd lleol ac mae’n dangos ichi beth yw manteision gwerthu bwyd a diod o Gymru. Mae’n cynnwys canllaw syml 5 cam i’ch rhoi ar ben y ffordd.
