Cymru. Cyrchfan Bwyd

Gwerthu Uniongyrchol

I bwy mae’r pecyn hwn?

Os ydych yn meddwl am werthu bwyd a diod yn uniongyrchol, bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i ganolbwyntio ar y meysydd pwysicaf fel bod eich busnes yn llwyddo.

Mae sawl ffordd o werthu eich cynnyrch yn uniongyrchol, gan gynnwys cymryd stondin mewn marchnad ffermwyr, cynllun blychau, agor siop fferm, gwerthu ar-lein neu feithrin cysylltiadau gyda busnesau bwyd lleol fel siopau bwyd, bwytai, caffis ac atyniadau ymwelwyr ac ati.

Mae’n hollbwysig eich bod yn dewis y llwybr sy’n iawn ichi, ac felly mae cynnal ymchwil marchnad yn allweddol. Mae penderfynu ar y ‘pwy, beth, ble, pam a phryd’ yn gam cyntaf hanfodol wrth sefydlu eich busnes. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnig ambell syniad da ichi ar gyfer gwella eich busnes heddiw.

Share This