Cymru. Cyrchfan Bwyd

Gwyliau Bwyd (Croeso Cymru)

I bwy mae’r pecyn hwn?

Mae gwyliau bwyd yn mynd law yn llaw â’r economi twristiaeth ehangach yng Nghymru. I’ch helpu chi i gynllunio, datblygu a gwella eich gw ˆyl fwyd, yn y pecyn cymorth hwn ceir syniadau, awgrymiadau ac ymarfer gorau i’ch annog chi i feddwl a’ch helpu chi gyda’r gwaith ymarferol.

Dyw hon ddim yn ddogfen holl gynhwysfawr ond yn hytrach yn becyn cymorth hawdd ei ddefnyddio gyda chrynodeb o ddeunydd darllen ychwanegol ar y diwedd. Efallai eich bod yn mentro i’r maes am y tro cyntaf neu mae’n bosib eich bod wedi trefnu llu o wyliau dros y blynyddoedd, ond beth bynnag eich profiad, gobeithio y bydd pob adran yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o syniadau i chi adeiladu arnyn nhw. Dros y blynyddoedd nesaf, fel rhan o Gynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru 2015 – 2020, ein bwriad yw adeiladu ar y pecyn hwn er mwyn gallu eich helpu chi gyda phob agwedd o’ch gwaith hyrwyddo. Byddwn felly’n croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau eraill rydych chi’n credu y dylen ni eu cynnwys fel rhan o esblygiad y pecyn cymorth hwn.

Pecyn cymorth a gynhyrchwyd gan Croeso Cymru. Cliciwch ar y botwm ar y dde i weld y pecyn cymorth ar eu gwefan.

Share This