Nawdd i Wyliau Bwyd
Ar gyfer pwy mae’r pecyn cymorth hwn?
Hanfod gwyliau bwyd yw dathlu a mwynhau bwyd, gan ddod â’r gymuned ynghyd.
Ganrifoedd yn ôl, roedd gwyliau bwyd yn ddathliad o’r cynhaeaf ac yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd tyfu a chynhyrchu bwyd.
Er bod y cynhaeaf bellach yn llai amlwg yn ein bywydau bob dydd, mae dathlu bwyd da, ei ansawdd, blas, arogl, tarddiad a hyd yn oed ei ddyluniad, yn bwysicach nag erioed i ni.
Efallai eich bod yn meddwl am sefydlu gwˆ yl fwyd am y tro cyntaf, neu efallai eich bod yn rhan o bwyllgor trefnu gwˆ yl sydd eisoes yn bodoli. Pa bynnag gam rydych chi arno, mae’n werth i chi ddarllen y pecyn hwn.
Mae gwyliau y dyddiau hyn ychydig yn wahanol i wyliau bwyd flynyddoedd yn ôl. Fyddai ein cyndeidiau ddim wedi gallu casglu’r amrywiaeth enfawr o fwydydd gwahanol sydd ar gael i ‘foodie’ ein hoes, hyd yn oed yn eu breuddwydion. Ond y tu hwnt i’r bwydydd, mae gan drefnwyr gwyliau bwyd heddiw lu o bethau i’w hystyried, problemau i’w datrys a rhwystrau i’w goresgyn: o farchnata a chysylltiadau cyhoeddus i hylendid a deddfwriaeth, gofod a lleoliad, parcio, gwerthuso, prisio. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Ac wedyn sut mae mynd ati i’w chyllido?
Nod y pecyn cymorth hwn yw eich helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i gyllido a helpu i drefnu eich gwˆ yl fwyd gan ddefnyddio nawdd. Byddwn yn ystyried beth yw nawdd, sut i ganfod noddwyr posibl, y dull mwyaf priodol, datblygu cynnig nawdd a sut i gadw eich noddwyr yn hapus ac yn gefnogol.
