Pecynnau Croeso Cymreig
I bwy mae’r pecyn hwn?
Os ydych yn berchen ar neu’n rheoli tai gwyliau, chalets, carafannau neu tipi neu ddau bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i gynnig croeso mawr Cymreig trwy ddangos ichi sut i greu pecynnau croeso gwahanol. Os yw eich gwesteion yn deulu â phlant ifanc neu’n gwpl ar wyliau rhamantaidd beth am roi cychwyn ar eu harhosiad gyda bwyd a diod a gynhyrchwyd yn lleol. Mae’r pecyn cymorth yn dangos ichi pam a sut i fynd ati i greu gwahanol fathau o hamperi bwyd a diod o Gymru.
Mae bwyta allan bob dydd yn gallu bod yn gostus a gall paratoi prydau yng nghysur eiddo hunan-arlwy helpu arbed arian, tra’n rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau’r hyn sydd o’u cwmpas yn ogystal â’r bwyd lleol. Felly, beth am gynnig hamper o fwyd a diod blasus o Gymru i’ch gwesteion fel y gallant baratoi pryd lleol nodweddiadol.
