Cymru. Cyrchfan Bwyd

Tarddiad Bwyd

I bwy mae’r pecyn hwn?

Bob blwyddyn mae Cymru’n cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau, o wyliau cerddoriaeth i sioeau hen geir. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle i arddangos y dewis eang o gynhyrchion bwyd a diod sydd ar gael ac i hyrwyddo hunaniaeth Cymru fel un o’r cyrchfannau bwyd amlycaf yn y byd.

Mae bwyd a diod yn rhan annatod o bob digwyddiad ac yn ffynhonnell refeniw proffidiol ar gyfer y rhan fwyaf o drefnwyr digwyddiadau. Mae ymchwil yn dangos fod ymwelwyr yn gwario ar gyfartaledd mwy na £10 ar fwyd ymhob digwyddiad undydd. Mae’r ffigwr hwn yn codi i tua £20 y dydd mewn digwyddiadau fel gwyliau cerddoriaeth lle mae ymwelwyr yn aros dros nos.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn dangos sut all trefnwyr digwyddiadau weithio’n agosach gyda chynhyrchwyr bwyd i hyrwyddo tarddiad bwyd lleol.

Share This