Cymru. Cyrchfan Bwyd

Twristiaeth Fwyd (Croeso Cymru)

I bwy mae’r pecyn hwn?

Pam fod twristiaeth bwyd yn bwysig i’ch busnes chi? Bydd cynnig profiad bwyd a diod Cymreig dilys i’ch cwsmeriaid yn helpu i wahaniaethu rhwng eich busnes chi a busnes eich cystadleuwyr. Pa un ai bwyty, bar, gwesty, gwely a brecwast, caffi neu atyniad twristiaeth sydd gennych chi, mae bwyd a diod yn rhan annatod o brofiad cyffredinol eich cwsmeriaid. Bydd cynnig bwyd a diod da’n eich helpu i ddenu a phlesio mwy o ymwelwyr gan eu hannog i wario mwy efo chi, ailadrodd eu hymweliadau a dweud wrth deulu a ffrindiau amdanoch chi. Mae hyn i gyd yn newyddion da i’ch gwerthiannau a maint eich elw. Edrychwch ar y pecyn cymorth hwn i ddysgu mwy.

Edrychwch ar y pecyn cymorth hwn i ddysgu mwy.

Pecyn cymorth a gynhyrchwyd gan Croeso Cymru. Cliciwch ar y botwm ar y dde i weld y pecyn cymorth ar eu gwefan.

Share This