Cymru. Cyrchfan Bwyd

Ymarfer Da Twristiaeth Bwyd (Croeso Cymru)

I bwy mae’r pecyn hwn?

Os ydych chi’n rhan o rwydwaith bwyd a diod, yn glwstwr rhanbarthol neu’n gr ˆwp cymunedol sy’n dymuno hyrwyddo eich arlwy twristiaeth bwyd, mae’r pecyn cymorth hwn i chi. I’ch helpu chi i gynllunio, datblygu a gwella twristiaeth bwyd yn eich ardal neu rwydwaith, mae’r pecyn hwn yn cynnig awgrymiadau, argymhellion a syniadau am ymarfer gorau i’ch annog chi i feddwl a’ch helpu chi gyda’r gwaith ymarferol ar hyd y daith.

Mae’n bwysig cofio nad yw hon yn ddogfen hollgynhwysfawr ond yn hytrach yn becyn cymorth hawdd ei ddefnyddio gyda chrynodeb o ddeunydd darllen ychwanegol ar y diwedd. Efallai eich bod yn mynd ati am y tro cyntaf i farchnata eich busnes bwyd eich hun neu fusnes rhywun arall, neu efallai fod gennych flynyddoedd o brofiad, ond ein gobaith yw y bydd pob adran yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o syniadau i chi adeiladu arnyn nhw.

Pecyn cymorth a gynhyrchwyd gan Croeso Cymru. Cliciwch ar y botwm ar y dde i weld y pecyn cymorth ar eu gwefan.

Share This