Gwesty a Bwyty Bryn Tyrch
Wedi ei leoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri, gyda golygfeydd godidog o’r Wyddfa a Moel Siabod, mae Gwesty a Bwyty Bryn Tyrch yn fusnes teuluol sydd wedi cael ei adnewyddu dros y ddegawd ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at wobr 4-seren gan Visit Wales a’r AA. Yn ogystal â hynny, mae wedi ei enwi yn Welsh Pub of the Year gan yr AA 2017/18.
Eu nod yw darparu bwyd syml ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol pan yn bosibl. Mae’r bar yn darparu cwrw lleol fel Clogwyn Gold a gwirodydd Cymreig megis jín Aber Falls. Wedi cyfarfod y perchnogion mewn digwyddiad ‘Cyfarfod y Cynhyrchwyr’ fe aethon ni i weld yr adeilad gan gynnig cyngor ar bethau megis y defnydd o’r Gymraeg, ffynonellau lleol, syniadau am ryseitiau, bwydydd ffasiynol, datblygu’r fwydlen, marchnata a hambyrddau croeso. Mae llawer o’r syniadau yma wedi cael eu rhoi ar waith bellach ac rydym yn falch iawn o weld y defnydd o wirodydd lleol a diodydd ysgafn ar y fwydlen coctels newydd.