Cymru. Cyrchfan Bwyd

Moody Cow

Wedi’i agor ym mis Mawrth 2018, mae Siop Fferm y Moody Cow wedi ei lleoli ger Aberaeron yng nghalon Bae Ceredigion, Gorllewin Cymru. Mae’n siop fferm a bistro unigryw, lle mae bwyd o ansawdd da wedi ei goginio yn ffres gartref, ac mae’r cynhyrchwyr lleol yn cael eu dathlu! Fe fu i ni weithio â’r tîm i nodi cynhyrchwyr lleol i’r bistro a’r siop cyn helpu gyda syniadau am ryseitiau a’r fwydlen.

Gan ei fod wedi ei leoli ar lwybr prysur i ymwelwyr fe wnaethom eu cynghori y byddai modd cyflwyno ryseitiau modern a thraddodiadol Cymreig gan ddefnyddio cynnyrch lleol unigryw sydd ar gael i helpu’r busnes i ddod yn gyrchfan i’r gymuned leol ac i ymwelwyr.

Mae’r siop fferm yn cael ei chyflenwi gyda chynnyrch a chrefftau Prydeinig a lleol, ffrwythau a llysiau ffres, dewis eang o gaws, cig wedi’i halltu a chownter deli gydag amrywiaeth eang o gynnyrch sy’n newid yn aml.

 

Share This