Oneplanet Adventures
Mae Oneplanet Adventures yn cael ei ystyried yn un o’r Canolfannau Ymwelwyr Coedwig fwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi ei leoli yng Nghoed Llandegla ger Rhuthun. Mae’r caffi’n darparu’r ryseitiau perffaith o fwyd cynnes lleol, coffi bendigedig ac awyrgylch groesawgar. Mae athroniaeth caffi Oneplanet yn seiliedig ar gefnogi busnesau lleol ac maen nhw wedi ymrwymo i gael y rhan fwyaf o’r cynhwysion mor lleol â phosibl.
Fe wnaethom eu helpu i ddatblygu cronfa ddata o amrywiaeth ehangach o gyflenwyr lleol a chyfanwerthwyr Cymraeg a oedd yn eu galluogi i gyflawni eu hathroniaeth. Mae’r cogyddion a gweddill y tîm wedi mynychu rhai o’r gweithdai a gynhaliwyd gennym ni ar Ddatblygu Bwydlenni a Thwristiaeth Bwyd yn ogystal â digwyddiadau cyfarfod y cynhyrchydd ble roedden nhw’n gallu cyfarfod cynhyrchwyr wyneb yn wyneb.
Mae’r cig yn dod o‘r fferm ger y goedwig. Mae’r llefrith yn dod o’r llaethdy lleol a’r bara yn cael ei ddanfon yn ffres o’r becws i lawr y ffordd. Maen nhw o’r farn fod hyn yn golygu eu bod yn gallu cynnig bwyd o’r safon uchaf posibl, yn ogystal â chefnogi’r economi lleol.