Sain Ffagan
Mae Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yn cael ei hystyried yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru ers sawl blwyddyn ac maen nhw’n ymfalchïo yn eu bwyd o safon uchel sy’n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol pan fo hynny’n bosibl.
Fe wnaethom weithio gyda’r amgueddfa ar eu polisi cyrchu a rhoi cyngor ar ddatblygu bwydlen oedd yn canolbwyntio ar y defnydd o ryseitiau traddodiadol. Fe wnaethom ddarparu rhestr o ryseitiau Cymreig wedi eu treialu a’u profi gan gynnwys fersiwn fwy modern pan yn addas. Cafodd llawer o’r ryseitiau hyn eu profi gan y cogydd a’u cyflwyno ar fwydlenni gydag Wyau Sir Fôn a ffagots a phys bellach yn hen ffefrynnau!