Cymru. Cyrchfan Bwyd

Tea Traders

Fe wnaethon ni gyfarfod perchnogion Tea Traders yn Uwchgynhadledd Twristiaeth Sir Gaerfyrddin pan oedden nhw’n ymchwilio i mewn i gyflenwyr cyn agor y caffi. Roedden nhw’n edrych am gyflenwyr lleol ar gyfer cynnyrch a nwyddau sy’n gysylltiedig â thê. Bu i ni ymchwilio a nodi rhestr o gyflenwyr addas gan gynnwys cwmnïau oedd yn cynhyrchu cacennau, bisgedi, tê, coffi, diodydd ysgafn, cyfanwerthwyr Cymreig a chrefftau lleol. Roedd y wybodaeth hon yn werthfawr iddyn nhw gan iddynt arbed llawer o amser wrth sefydlu’r busnes.

Mae Tea Traders yn cael ei redeg gan ddau ddyn sy’n caru tê! Maen nhw’n gwmni cynhwysol sy’n credu’n gryf mewn gwasanaeth hen ffasiwn, cydraddoldeb a chyfleoedd. O fewn eu tîm medrus, brwdfrydig a chyfeillgar maen nhw’n cynnig hyfforddiant integredig, cyfleoedd gwaith a chyflogaeth i oedolion gydag anawsterau dysgu.

Dyma siop de arobryn, cyfeillgar yng Nghaerfyrddin sy’n cyflenwi dros 100 o’r têdail rhydd gorau yng Nghymru, coffi Masnach Deg, cacennau wedi eu pobi gartref a byrbrydau ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Yn ogystal, maen nhw wedi creu amrywiaeth o gymysgeddau têunigryw eu hunain, megis y gymysgedd Brecwast Cymreig.

Share This