Cymru. Cyrchfan Bwyd

The Slate Caverns

Mae’r Slate Caverns wedi ei leoli ym Mlaenau Ffestiniog ac mae’n atyniad ymwelwyr delfrydol i’r holl deulu gyda golygfeydd godidog ar draws Eryri.

Mae siop anrhegion, gweithdy llechi, caffi mawr, siop goffi Fictoraidd, Tafarn y Quarryman’s i gael cwrw wedi ei fragu’n lleol a diodydd lleol eraill yn ogystal â gridyll ar gyfer dyddiau heulog lle gallwch brynu byrgyr cig eidion Cymreig.

Maen nhw’n cynnig bwydlen ddwyieithog sy’n cynnwys danteithion lleol megis lobsgóws a byrbrydau wedi eu gwneud gyda chaws cheddar Cavern sydd wedi cael ei aeddfedu yn y chwarel llechi. Mae hwn ar gael i’w brynu yn y siop hefyd. Mae’r Slate Mountain Glamping yn cynnig hambwrdd croeso gyda the Cymreig, llefrith lleol a byrbrydau.

 

Share This