Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod

Y Sioe Frenhinol
18-21 Gorffennaf 2022

Adeilad Clwyd Morgannwg

A yw eich breuddwydion gyrfa heb fod ym mhen draw’r ffwrn? Ydych chi wedi cyrraedd fforch yn y ffordd? Allech chi droi pryd parod yn arian parod?

Beth am ddarganfod eich potensial yn 2022, a meithrin gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yn ein parth gyrfaoedd sy’n well nag erioed?

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i ni agor ein drysau i ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd a diod yn Sioe Frenhinol Cymru. Dewch i weld sut y gallwch chi dorri eich cwys eich hun a bachu galwedigaeth gyffrous a gwerth chweil.

Dosbarthiadau meistr coginio Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod

Bydd yr arbenigwraig bwyd Nerys Howell yn cynnal cyfres o weithdai coginio tatws Blas y Tir ar gyfer plant oed cynradd am 10am a phob oed am 12pm a 3pm yn Adeilad Clwyd Morgannwg bob dydd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.

Hefyd, cynhelir dosbarth meistr ar gyfer y rhai sydd wrth eu bodd â chaws Cymreig gyda David Edwards o Menter a Busnes ddydd Llun 18 Gorffennaf am 4.15pm.

Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

(Bydd pob e-bost a dderbynnir yn cael ei drin yn unol â’n polisi preifatrwydd)
Dyddiad / Amser Grŵp Oedran Rysáit
Dydd Llun 18 Gorffennaf
10am
Plant Ysgol Gynradd Salad tatws Sir Benfro
Canllaw cam wrth gam i wneud salad haf blasus syml gyda thatws cynnar Sir Benfro sydd wedi ennill gwobrau a pherlysiau ffres.
Archebu lle
Dydd Llun 18 Gorffennaf
12pm
Pob Oed Cacennau tatws crensiog Blas y Tir gyda chig moch Edwards o Gonwy
Sut i wneud brecinio blasus gyda thatws Blas y Tir, winwns a pherlysiau a’u trawsnewid yn gacennau tatws crensiog wedi’u gweini gyda chig moch wedi’i halltu’n sych gan Edwards o Gonwy.
Archebu lle
Dydd Llun 18 Gorffennaf
3pm
Pob Oed Tatws gyda chaws pob a salad tomato
Rysáit tatws pob syml gyda thopin caws crensiog wedi’i weini gyda salad tomato a basil.
Archebu lle
Dydd Llun 18 Gorffennaf
4.15pm
Pob Oed Dosbarth meistr i’r rhai sydd wrth eu bodd â chaws Cymreig gyda David Edwards o Menter a Busnes
Profiad blasu a synhwyraidd caws Cymreig wedi’i diwtora, cyfle i ddysgu am y gwahaniaethau rhwng cawsiau, deall sut mae gwahanol gawsiau’n cael eu cynhyrchu a sut mae gwahanol nodweddion yn cael eu datblygu. Cipolwg go iawn ar sector llaeth Cymru a chyfle hefyd i ddysgu geirfa newydd ar sut i ddisgrifio caws.
Archebu lle
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
10am
Plant Ysgol Gynradd Talpiau tortilla tatws a phupur
Pryd brecinio amgen iach gyda haenau o datws Blas y Tir, pupurau, cig moch a chaws Perl Wen.
Archebu lle
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
12pm
Pob Oed Pasteiod bach Cig Eidion Cymru a thatws
Tatws Blas y Tir wedi’u pobi a’u llenwi â ragu Cig Eidion Cymru a chaws Dragon ar ei ben.
Archebu lle
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
3pm
Pob Oed Samosas llysiau sbeislyd
Sut i wneud samosas iach creisiog wedi’u pobi gyda thatws Blas y Tir, sbeisys a llysiau cymysg.
Archebu lle
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
10am
Plant Ysgol Gynradd Tatws pizza
Sut i ddefnyddio tatws Blas y Tir fel sylfaen pizza – dewiswch eich llenwadau eich hun!
Archebu lle
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
12pm
Pob Oed Crempogau tatws, cig moch a pherlysiau
Crempogau gyda gwahaniaeth! Mae’r crempogau sawrus hyn yn gwneud pryd brecinio neu ginio gwych.
Archebu lle
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
3pm
Pob Oed Samosas llysiau sbeislyd
Sut i wneud samosas iach creisiog wedi’u pobi gyda thatws Blas y Tir, sbeisys a llysiau cymysg.
Archebu lle
Dydd Iau 21 Gorffennaf
10am
Plant Ysgol Gynradd Salad tatws Sir Benfro
Canllaw cam wrth gam i wneud salad haf blasus syml gyda thatws cynnar Sir Benfro sydd wedi ennill gwobrau a pherlysiau ffres.
Archebu lle
Dydd Iau 21 Gorffennaf
12pm
Pob Oed Talpiau tortilla tatws a phupur
Pryd brecinio amgen iach gyda haenau o datws Blas y Tir, pupurau, cig moch a chaws Perl Wen.
Archebu lle
Dydd Iau 21 Gorffennaf
3pm
Pob Oed Tatws gyda chaws pob a salad tomato
Rysáit tatws pob syml gyda thopin caws crensiog wedi’i weini gyda salad tomato a basil.
Archebu lle

Sgyrsiau am yrfaoedd gan bobl ysbrydoledig sy’n gweithio yn y diwydiant

Nod Parth Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yw arfogi’r hen a’r ifanc gyda’r modd i benderfynu, cynllunio a chystadlu am gyfleoedd yn niwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae cyfleoedd swyddi yn amrywio’n fawr yn y diwydiant bwyd a diod o ddatblygu cynnyrch newydd i reoli ansawdd, o logisteg i reolwyr warws, o farchnata a brandio i gyllid.

Dewch i wrando ar y rhai sy’n gweithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru i ddarganfod mwy.

Dydd Llun 18 Gorffennaf
11am
O angerdd i yrfa
Lauren Smith | Rheolwr Marchnata, Levercliff
Archebu lle
Dydd Llun 18 Gorffennaf
2pm
Dewch i glywed am yrfaoedd yn Radnor Hills yn syth o lygad y ffynnon
Chris Sanders | Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata, Radnor Hills
Archebu lle
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
11am
Pam fod dewis prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod yn syniad da? Dewch i gael clywed!
Chris Jones | Pennaeth yr Uned Busnes, Hyfforddiant Cambrian
Archebu lle
Dydd Mawrth 19 Gorffennaf
2pm
Bydd tim Bl.9 Ysgol Maes y Gwendraeth yr Her Flasus yn cyflwyno eu Browni Bara Brith, a’u siwrne o gysyniad i realiti masnachol
Edward Morgan | Rheolwr CSR a Hyfforddiant, Grŵp Castell Howell
Archebu lle
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
11am
Newid Angerdd i mewn i Bwrpas
Natalie Rouse | Ymchwilydd Marchnadoedd a Thechnolegau a Maethegydd Dynol Cofrestredig, BIC Innovation
Archebu lle
Dydd Mercher 20 Gorffennaf
2pm
Sut mae gwneud caws? Gyrfaoedd yn y Diwydiant Cynnyrch Llaeth
Kirstie Jones | Rheolwr Marchnata, Hufenfa De Arfon
Archebu lle
Dydd Iau 21 Gorffennaf
11am
Awch am yrfa yn y diwydiant bwyd?
Louise Cowdy | Rheolwr Rhaglen, Levercliff
Archebu lle
Dydd Iau 21 Gorffennaf
2pm
Busnes cynaliadwy = gyrfaoedd cynaliadwy
Amy Evans | Rheolwr Gyfarwyddwr, Bluestone Brewing
Archebu lle

Ein partneriaid

Puffin Produce

Sgiliau Bwyd Cymru

Gweithlu Bwyd Cymru

Arloesi Bwyd Cymru

Gyrfaoedd Blasus

Clwstwr Cynaliadwyedd

Clwstwr Diodydd

Clwstwr Uwchraddio Cyanliadawy