Sut mae’n gweithio
Ychydig mwy am yr ymgyrch
Lansiwyd yr ymgyrch hon yn gynnar yn 2022 a hoffem glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan. Efallai bod gennych chi eich ymgyrch neu brosiect eich hun ar waith; syniadau am ymgyrchoedd roeddech chi bob amser eisiau i rywun eu hystyried; neu stori hynod ddiddorol i’w hadrodd am gwmni. Ein nod yw bod yn ymgyrch ymbarél ar gyfer pob peth o’r fath.
Nod yr ymgyrch yw darparu platfform a fydd yn cynnwys:
- Hunaniaeth gyffredinol ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol a gwaith peilot sy’n ymwneud â materion gweithlu cynaliadwy.
- Datblygu ymhellach Hysbysfwrdd Swyddi Sgiliau Bwyd Cymru i dynnu sylw at y swyddi presennol yn y diwydiant.
- Creu astudiaethau achos o straeon personol a chwmnïau diddorol a fydd yn denu darpar ymgeiswyr i’r diwydiant.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid, o gyrff cynrychioliadol allweddol i grwpiau amrywiol, gyda’r nod o chwyddo neges ein hymgyrch ymhell ac agos.
- Cyfeirio at ystod o ddeunydd ar-lein ehangach ond sydd ar hyn o bryd yn anodd dod o hyd iddo oherwydd natur wasgaredig y wybodaeth.


At bwy ydyn ni’n anelu’r ymgyrch?
Pawb. O’r disgybl sydd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar a’r myfyriwr sydd wedi graddio o’r coleg/prifysgol hyd at y rheini sy’n newid gyrfa a’r rhai sydd wedi ymddeol sydd eisiau tipyn o newid. Mae gan bob un ohonyn nhw rôl i’w chwarae wrth fywiogi a thyfu’r diwydiant yng Nghymru.
Mae ein ffocws cychwynnol ar brosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod, ond waeth o ba ran o’r gadwyn gyflenwi rydych chi’n dod, rydyn ni eisiau clywed gennych os oes gennych swyddi gwag i’w llenwi a stori wych i’w hadrodd.
Sut allaf i gymryd rhan?
Dyma ambell ffordd y gall eich cwmni neu sefydliad gymryd rhan:

Hysbysebu eich swydd wag ar ein hysbysfwrdd gwaith
Os oes gennych swydd wag (neu nifer o swyddi gwag) cysylltwch â ni a byddwn yn gallu eu rhoi ar ein hysbysfwrdd swyddi Gweithlu Bwyd Cymru a’i hyrwyddo’n eang trwy hysbysebu â thâl ar-lein yn ogystal â hyrwyddo trwy sianeli ehangach. Mae’r hysbysfwrdd swyddi eisoes ar waith yma a byddwn yn ei ddatblygu ymhellach dros y misoedd nesaf.

Ein helpu i arddangos y diwydiant
Trwy astudiaethau achos wedi’u ffilmio neu ysgrifenedig rydyn ni’n ceisio dangos yr amrywiaeth yn y rolau o fewn y diwydiant. Os oes gennych chi stori wych i’w hadrodd ynghylch pam y dylai recriwt newydd ymuno â’ch busnes, eich sector, neu’r diwydiant ehangach yn gyffredinol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Dweud wrth bawb am y diwydiant a’r ymgyrch
Mae’r ymgyrch hon eisoes ar waith a hoffem glywed gennych chi nawr fel y gallwn ni hyrwyddo eich swyddi gwag a chyfleoedd yn ogystal â darparu tudalennau gwybodaeth gychwynnol ar-lein i’r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant ac yn chwilio am gyngor.

Adborth gan y Diwydiant
Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn i chi ei wneud yn gyfnewid am hyn yw rhoi gwybod i ni a yw’r ymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth i chi a’ch busnes ac i’n hysbysu ni pan fydd swyddi gwag wedi’u llenwi’n llwyddiannus.
Gall eich cefnogaeth fod yn gymorth i wneud yr ymgyrch yn llwyddiant.
I ddysgu mwy ac i gymryd rhan, cysylltwch â thîm Gweithlu Bwyd Cymru drwy: