Mwy am y prosiect
Mae rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru, a gyflenwir gan Lantra, yn cefnogi busnesau yn niwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant priodol ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn gyffredinol.
Gan weithio ar draws holl sectorau diwydiant bwyd a diod Cymru, mae’n ceisio paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol i’r dyfodol a’u galluogi i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a thyfu eu busnesau.
Bydd busnesau cymwys sydd eisiau manteisio ar yr arian sydd ar gael i gynorthwyo gyda chostau cwblhau cyrsiau hyfforddiant yn gweithio yn y lle cyntaf gyda thîm Lantra a chwblhau Teclyn Sgiliau Diagnostig fydd yn helpu busnesau i adnabod a blaenoriaethu anghenion hyfforddiant. I gychwyn arni ewch i’n tudalen ariannu.
Mae elfen o’r rhaglen yn cynnwys ‘Cymru. Cyrchfan Bwyd’ sy’n cefnogi busnesau o Gymru o’r sector lletygarwch i brynu, gweini neu werthu bwyd a diod o Gymru trwy gaffis, bwytai, siopau, marchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd, G a B, atyniadau ymwelwyr ac ati. Gall hyn amrwyio o becynnau gwaith amrywiol a mentora un-i-un i weithdai a digwyddiadau mwy.
Derbyniodd Lantra arian trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru er mwyn cyflenwi Rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru.