Polisi Preifatrwydd
Pwy Ydym Ni
MaeLantra yn elusen gofrestredig ac mae wedi ymrwymo i’w nodau elusennol, sef…
…hyrwyddo addysg y cyhoedd a chyflawni ymchwil addysgol…
Gwneir hynny trwy ddarparu hyfforddiant, asesu a chymwysterau o ansawdd uchel (gan y sefydliad dyfarnu), a thrwy wneud gwaith arall sy’n cyflawni’r nodau elusennol, pan mae cyllid ar gael.
Maeswyddfa gofrestredigLantra yn Lantra House, Stoneleigh Park, Coventry, Warwickshire CV8 2LG ac rydym yn gwmni a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru o dan rif cwmni 2823181.
Ein rhif cofrestru elusen yw 1022991 ac SC039039 yn Yr Alban.
Rydym wedi cofrestru ar Gofrestr Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth; rhif cofrestru Z5878437. Sandie Absalom ywRheolydd DataLantra, a gellir cysylltu â hi ar 02476 696 996
Data Personol
Gwybodaeth a Gasglwn
MaeLantra yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol, statudol a chytundebol ac i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eich cyfer. Ni fyddwn byth yn gofyn ichi am unrhyw ddata personol diangen ac ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth mewn unrhyw ffordd ac eithrio’r ffordd a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Bydd yr holl ddata a gesglir at ddibenion busnes dilys.
Ni fyddwn byth yn casglu mwy o ddata personol oddi wrthych nac:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Cyfeiriad Cartref
- Ebost Personol
- Ebost Busnes
- Rhif Ffôn Cartref
- Rhif Ffôn Symudol
Sut Rydym yn Defnyddio Eich Data Personol
Mae Lantra yn cymryd eich preifatrwydd yn ddifrifol iawn ac ni fyddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon pan mae yna fudd busnes dilys.
Os cymerwch ran mewn prosiect wedi’i ariannu gan drydydd parti, efallai y rhannwn eich data gyda’r cyllidydd a sefydliadau swmp bostio.
Ni fyddwn fyth yn datgelu, rhannu na gwerthu eich data heb eich cydsyniad; oni bai ei bod yn gyfreithiol ofynnol inni wneud hynny. Nid ydym ond yn cadw eich data cyhyd ag y mae’n rhaid ac at y diben(ion) a nodwyd yn yr hysbysiad hwn ac unrhyw ganllawiau eraill a ddarperir gan Lantra. Pan rydych wedi cydsynio y gallwn ddanfon cynigion hyrwyddo a deunydd marchnata atoch, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg. Er mwyn tynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â Sandie Absalom Rheolydd Data, ffôn 02476 696996.
Nodir y pwrpasau a’r rhesymau dros brosesu eich data personol yma:
- Byddwn yn casglu eich data personol wrth gyflawni contract
- Byddwn yn prosesu eich data personol fel rhan o ganllawiau rhaglen
- Fel rhan o’n hamodau a thelerau cytundebol, bydd unigolion yn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch cynhyrchion a gwasanaethau Lantra a materion o ddiddordeb i’n diwydiant. Ni fydd gwybodaeth o’r fath yn ymwthiol.
Am Faint Fyddwch Chi’n Cadw Fy Nata?
Nid yw Lantraond byth yn cadw gwybodaeth bersonol am gyhyd ag y mae’n rhaid ac mae gennym bolisïau adolygu a chadw pendant er mwyn cyflawni’r cyfrifoldebau hynny. Ein polisi yw cadw eich data personol am isafswm o saith mlyneddac wedi hynny caiff ei ddinistrio.
Rhannu a Datgelu Eich Gwybodaeth Bersonol
Nid ydym yn rhannu na datgelu unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol heb eich cydsyniad, ac eithrio at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn neu pan fo hynny’n gyfreithiol ofynnol.
A fyddwch yn cysylltu â mi at ddibenion marchnata?
Ni fyddwn ond yn danfon e-byst marchnata atoch sy’n berthnasol i’r diwydiant ac i’r rhaglen.
Preifatrwydd a’ch gweithgarwch
Eich Hawliau
Os derbyniwn gais gennych i ymarfer unrhyw un o’r hawliau uchod, efallai y gofynnwn ichi gadarnhau eich hunaniaeth cyn gweithredu ar y cais; gwneir hynny er mwyn sicrhau bod eich data yn cael ei warchod ac yn cael ei gadw’n ddiogel.
Sylwer: Nid yw Lantra yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau neu broffilio wedi’i awtomeiddio.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu:
Os gweithredwch yr hawl hwn gallai hynny olygu na fydd Lantra yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth a ddisgwylir ganddynt
- Mae gennych yr hawl i gael gwybod am unrhyw wybodaeth y mae Lantra yn ei phrosesu a pham rydym yn prosesu’r wybodaeth honno
- Mae gennych yr hawl i weld unrhyw wybodaeth bersonol sydd gan Lantra amdanoch
- Mae gennych yr hawl i gywiriad. Os ydych yn credu ein bod yn cadw unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir amdanoch, mae gennych yr hawl i ofyn inni gywiro a/neu gwblhau’r wybodaeth ac fe wnawn ein gorau i wneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith; oni bai fod rheswm dilys dros beidio gwneud hynny, ac os felly fe gewch wybod. Bydd Lantra hefyd yn rhoi gwybod i unrhyw drydydd partïon sy’n cadw eich data y dylent ei ddiweddaru yn y modd priodol.
- Mae gennych yr hawl i gael data wedi’i ddileu, ond os digwydd hynny efallai na fydd Lantra yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth a ddisgwylir ganddynt, ac os gofynnwch am hynny caiff data ei ddileu o fewn 20 diwrnod gwaith
Mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol ar gyfer:
- Marchnata uniongyrchol sy’n absoliwt, nid oes angen ichi ddangos rhesymau dros eich gwrthwynebiad, nid oes unrhyw eithriadau fydd yn caniatáu i brosesu barhau.
- Prosesu yn seiliedig ar fuddiannau dilys neu gyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd/ymarfer awdurdod swyddogol
- Prosesu at ddibenion ymchwil neu ystadegol.
- Os yw cywirdeb y data yn cael ei herio (am gyfnod o amser er mwyn galluogi’r rheolydd i wirio cywirdeb)
- Mae’r prosesu yn anghyfreithlon ac rydych yn gwrthwynebu dileu’r data ac yn gofyn yn hytrach am gyfyngiadau ar y defnydd ohono
- Rydych yn gwrthwynebu prosesu yn seiliedig ar fuddiannau busnes dilys
- Pan nad yw Lantra fel y rheolydd angen y data mwyach ond mae ei angen arnoch chi er mwyn ymarfer neu amddiffyn cais cyfreithiol
- Mae gennych yr hawl i symudedd data er mwyn ichi allu cael gafael ar ac ail-ddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwasanaethau gwahanol. Mae’n caniatáu ichi symud, copïo neu drosglwyddo data personol yn rhwydd o un amgylchedd TG i un arall mewn ffordd ddiogel a chadarn, heb i hynny effeithio ar ei ddefnyddioldeb.
Camau Diogelu
MaeLantrayn cymryd pob cam a rhagofal rhesymol i warchod a diogelu eich data personol. Rydym yn gweithio’n galed i’ch diogelu chi a’ch gwybodaeth rhag mynediad, addasu, datgelu neu ddinistrio anawdurdodedig ac mae gennym sawl haen o gamau diogeledd ar waith, gan gynnwys:
- SSL/TLS ar gyfer amgryptio e-byst ac SSL ar gyfer amgryptio gwefannau
- Diogelwch rhwydwaith byw llawn trwy ein wal dân
- Gwarchodaeth lefel rhwydwaith rhwng y rhwydweithiau sicredig ac ansicredig a dilysiad defnyddiwr canoledig ar ein rhwydwaith diwifr.
- Sganio gwrth firws llawn ar draws yr holl systemau.
Trosglwyddiadau’r tu allan i’r UE (os yn berthnasol)
Caiff data personol yn yr Undeb Ewropeaidd ei ddiogelu gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Deddf Diogelu Data (2018) a GDPR y DU ond nid yw’n dilyn y bydd gan rai gwledydd yr un lefel uchel o warchodaeth ar gyfer eich data personol.
Mae Lantra yn trosglwyddo data personol y tu allan i’r UE at y dibenion canlynol:
- Cyfeiriadau e-bost at ddarparwyr neu sefydliadau y mae gan Lantra gontractau â nhw at ddibenion busnes dilys er mwyn hyrwyddo ein hamcanion elusennol
Pan rydym yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol am y rhesymau uchod, byddwn yn defnyddio’r camau a dulliau diogelu y cyfeiriwyd atynt uchod er mwyn sicrhau bod eich data personol bob tro’n ddiogel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwneud Cwyn
Nid yw Lantra ond yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn ac yn unol â’r deddfau diogelu data perthnasol. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gwneud cwyn ynghylch prosesu eich data personol neu os ydych yn anfodlon gyda’r ffordd yr ydym wedi trin eich gwybodaeth, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwyliol
Gwnewch y gŵyn yn y lle cyntaf i:
Lantra
Sandie Absalom – Rheolydd Data (sandie.absalom@lantra.co.uk)
Lantra House, Stoneleigh Park, Coventry, CV8 2LG
Ffôn: 02476 696996.
Rhoi Gwybod am Bryder
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) – Swyddfa Oruchwyliol
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SKP 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Ewch i: www.ico.org.uk
Hysbysiad Cwcis
Mae ‘cwci’ yn ddarn o ddata a ddanfonir o wefan a’i storio ar gyfrifiadur y defnyddiwr gan we borydd y defnyddiwr tra bod y defnyddiwr yn pori. Pan rydych yn mynd i wefan sy’n defnyddio cwcis am y tro cyntaf, caiff cwci ei lawr lwytho ar eich cyfrifiadur/teclyn symudol er mwyn sicrhau, y tro nesaf yr ewch i’r wefan honno, y bydd eich teclyn yn cofio gwybodaeth ddefnyddiol fel eitemau yn y gert siopa, tudalennau y buoch ynddynt neu ddewisiadau mewngofnodi.
Gwneir defnydd helaeth o cwcis er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, ac mae ein gwefan ni’n dibynnu ar cwcis i wella profiad y defnyddiwr ac er mwyn i nodweddion a gwasanaethau weithio’n iawn.
Mae’r rhan fwyaf o we borwyr yn caniatáu peth rheolaeth i gyfyngu neu flocio cwcis trwy osodiadau’r porydd, ond os ydych yn analluogi cwcis efallai y gwelwch fod hynny’n effeithio ar eich gallu i ddefnyddio rhai rhannau o’n gwefan neu wasanaethau. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am cwcis ewch i www.aboutcookies.org.
Newidiadau i bolisi preifatrwydd Lantra
Caiff y Polisi Preifatrwydd hwn ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd, ac o’r herwydd efallai yr hoffech ail-edrych arno bob tro y gofynnir ichi ddarparu gwybodaeth ar ein cyfer.
[1] Erthyglau Cymdeithasiad Lantra Gorffennaf 2015 – Cymal 3 “Gwrthrychau.”
Bydd Lantra bob tro’n rhoi gwybod:
- Pam rydym angen eich data
- Gyda phwy y gallem rannu eich data personol
- Am ba gyfnod yr ydym yn bwriadu cadw eich data a sut fydd yn cael ei storio a’i waredu
- Os na wnaethom gasglu’r data yn uniongyrchol oddi wrthych chi, gwybodaeth am y ffynhonnell.
Sgiliau Bwyd Cymru
Byddwn yn rhannu data gyda Llywodraeth Cymru sef ein contractwr a Darparwyr Hyfforddiant llwyddiannus fydd yn darparu’r hyfforddiant ar eich cyfer.
Efallai y rhoddir eich manylion i brosiectau eraill megis Prosiect Helix a Cywain os bernir mai dyna’r math o gymorth sydd orau i’ch busnes. Fodd bynnag, byddwn bob tro’n gofyn am ganiatâd y busnes cyn rhannu data.