Cymorth hyfforddi ar gael i’ch busnes
Location:
Time:
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cynnig cymorth hyfforddi i fusnesau mewn ystod o feysydd hollbwysig yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.
Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd
Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth sefydlu yma yng Nghymru ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau rydym wedi cydweithio’n ddiweddar gyda Cynnal Cymru ac EcoStudio i ddatblygu Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn benodol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a gweithredoedd sy’n briodol i’w sefyllfa sy’n mynd i’r afael â rheolaeth amgylcheddol ac effaith gymdeithasol.
Mae modiwlau’r cwrs yn mynd i’r afael ag elfennau penodol o gynaliadwyedd gan gynnwys datgarboneiddio, dim gwastraff, cymorth i systemau naturiol, cyflogaeth deg a chyfrifol, llesiant cymdeithasol a staff, ac effaith gymunedol. Mae hyn yn arwain at gyfranogwyr yn gallu datblygu eu strategaeth gynaliadwyedd bwrpasol eu hunain a fydd yn cyd-fynd â pholisi’r llywodraeth ar lefel Cymru a’r DU.
Mae’r cwrs yn rhoi llawer o gyfle i gyfranogwyr drafod, gwaith grŵp a dysgu gan eu cyfoedion. Mae’n ofynnol i bawb sy’n cymryd rhan gynhyrchu strategaeth datblygu cynaliadwy sy’n briodol i’w busnes erbyn diwedd y cwrs.
Bydd hyfforddiant yn digwydd dros y dyddiadau canlynol
• 5 Hydref
• 9 Tachwedd
Cyrsiau a gefnogir
Gan weithio ar draws pob sector o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru, ein nod yw paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol y dyfodol a’u gosod mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a thwf busnes.
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru yn ystyried ariannu unrhyw anghenion hyfforddi a all fod gan fusnes unigol, o hyfforddiant achrededig i gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig.
Bydd busnesau cymwys, sydd am gael mynediad at gyllid sydd ar gael i gefnogi gyda chost cwblhau cyrsiau hyfforddi, yn gyntaf yn gweithio gyda thîm Sgiliau Bwyd Cymru i gwblhau Teclyn Sgiliau Diagnostig a fydd yn helpu busnesau i nodi a blaenoriaethu eu hanghenion hyfforddi.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyfforddi neu’r cyllid sydd ar gael, cysylltwch â Sgiliau Bwyd Cymru:
wales@lantra.co.uk
01982 552646