E-ddysgu i adeiladu sgiliau’r diwydiant
Lleoliad: Hyfforddiant ar-lein
Amser:
Mae busnesau bwyd a diod bach o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen. Mae cwsmeriaid sy’n gofyn llawer, a marchnadoedd cystadleuol yn golygu bod mireinio eich sgiliau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid yn hanfodol. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau teithio a chyfarfod presennol yn golygu bod dod o hyd i amser a lle i wneud hyn yn fwy heriol nag erioed.
Mae Sgiliau Bwyd Cymru wedi gweithio gyda Levercliff i ddarparu ateb e-ddysgu syml i’ch helpu i feithrin eich sgiliau. Gallwch ddewis beth i’w ddysgu, a phryd i’w ddysgu, yn eich swyddfa neu gartref.
Dysgwch ar eich cyflymder eich hun, a chael mynediad at ddeunyddiau dysgu achrededig mewn amrywiaeth o fformatau.
Gallwch ddewis faint o gymorth sydd ei angen arnoch, o fynediad syml i ddeunyddiau dysgu ar-lein, i gymorth 1:1 gan ymgynghorydd, a hyd yn oed asesiad ac achrediad llawn ar Lefel 4.
Mwy o wybodaeth ynglyn â’r cyrsiau
Cysylltwch â Will Shaw yn Levercliff i drafod eich gofynion a’ch costau ar gyfer pecynnau hyfforddi penodol.